Y Salmau 71:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw,fydd yn fy adfywio drachefn;ac o ddyfnderau'r ddaearfe'm dygi i fyny unwaith eto.

21. Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd,ac yn troi i'm cysuro.

22. Byddaf finnau'n dy foliannu â'r nablam dy ffyddlondeb, O fy Nuw;byddaf yn canu i ti â'r delyn,O Sanct Israel.

23. Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen—oherwydd canaf i ti—a hefyd yr enaid a waredaist.

Y Salmau 71