14. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.
15. Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,na'r dyfnder fy llyncu,na'r pwll gau ei safn amdanaf.
16. Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;yn dy drugaredd mawr, tro ataf.
17. Paid รข chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.