Y Salmau 67:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,bydded llewyrch ei wyneb arnom,Sela

2. er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.

3. Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

4. Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.Sela

Y Salmau 67