Y Salmau 56:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau,ac wedi costrelu fy nagrau—onid ydynt yn dy lyfr?

9. Yna troir fy ngelynion yn eu hôlyn y dydd y galwaf arnat.Hyn a wn: fod Duw o'm tu.

10. Yn Nuw, yr un y molaf ei air,yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air,

11. yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;beth a all pobl ei wneud imi?

12. Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw;fe'u talaf i ti ag offrymau diolch.

13. Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau,a'm camau, yn wir, rhag llithro,er mwyn imi rodio gerbron Duwyng ngoleuni'r bywyd.

Y Salmau 56