Y Salmau 55:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Yr wyf bron â drysu gan sŵn y gelyn,gan grochlefain y drygionus;oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf,ac ymosod arnaf yn eu llid.

4. Y mae fy nghalon mewn gwewyr,a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf.

5. Daeth arnaf ofn ac arswyd,ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn.

6. A dywedais, “O na fyddai gennyf adenydd colomen,imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso!

7. Yna byddwn yn crwydro ymhellac yn aros yn yr anialwch;Sela

8. “brysiwn i gael cysgodrhag y gwynt stormus a'r dymestl.”

Y Salmau 55