Y Salmau 51:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb;yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau;

2. golch fi'n lân o'm drygioni,a glanha fi o'm pechod.

3. Oherwydd gwn am fy nhroseddau,ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi.

4. Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechaisa gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg,fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd,ac yn gywir yn dy farn.

Y Salmau 51