Y Salmau 51:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb;yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau;

2. golch fi'n lân o'm drygioni,a glanha fi o'm pechod.

3. Oherwydd gwn am fy nhroseddau,ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi.

4. Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechaisa gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg,fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd,ac yn gywir yn dy farn.

5. Wele, mewn drygioni y'm ganwyd,ac mewn pechod y beichiogodd fy mam.

6. Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn;felly dysg imi ddoethineb yn y galon.

7. Pura fi ag isop fel y byddaf lân;golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.

8. Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd,fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau.

9. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau,a dilea fy holl euogrwydd.

10. Crea galon lân ynof, O Dduw,rho ysbryd newydd cadarn ynof.

11. Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt,na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.

Y Salmau 51