Y Salmau 50:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.

11. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.

12. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.

13. A fwytâf fi gig eich teirw,neu yfed gwaed eich bychod geifr?

Y Salmau 50