1. Clywch hyn, yr holl bobloedd,gwrandewch, holl drigolion byd,
2. yn wreng a bonedd,yn gyfoethog a thlawd.
3. Llefara fy ngenau ddoethineb,a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.
4. Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb,a datgelaf fy nychymyg รข'r delyn.
5. Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd,pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,
6. rhai sy'n ymddiried yn eu goludac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?