Y Salmau 47:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Curwch ddwylo, yr holl bobloedd;rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd.

2. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy,yn frenin mawr dros yr holl ddaear.

3. Fe ddarostwng bobloedd odanom,a chenhedloedd o dan ein traed.

4. Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni,balchder Jacob, yr hwn a garodd.Sela

Y Salmau 47