Y Salmau 45:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;syrth pobloedd odanat.

6. Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol,a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.

7. Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinioag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.

8. Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.

9. Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.

10. Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;

11. yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,oherwydd ef yw dy arglwydd.

12. Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.

13. Cwbl ogoneddus yw merch y brenin,cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,

Y Salmau 45