Y Salmau 44:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.

10. Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.

11. Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.

12. Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.

13. Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.

14. Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.

15. Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd,ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd

16. o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.

17. Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofiona bod yn anffyddlon i'th gyfamod.

18. Ni throdd ein calon oddi wrthyt,ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau,

19. i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacala'n gorchuddio â thywyllwch dudew.

20. Pe baem wedi anghofio enw ein Duwac estyn ein dwylo at dduw estron,

Y Salmau 44