Y Salmau 44:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.

7. Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelyniona chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.

8. Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio,a chlodforwn dy enw am byth.Sela

9. Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.

10. Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.

11. Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.

Y Salmau 44