Y Salmau 44:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Pe baem wedi anghofio enw ein Duwac estyn ein dwylo at dduw estron,

21. oni fyddai Duw wedi canfod hyn?Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon.

22. Ond er dy fwyn di fe'n lleddir drwy'r dydd,a'n trin fel defaid i'w lladd.

23. Ymysgwyd! Pam y cysgi, O Arglwydd?Deffro! Paid â'n gwrthod am byth.

24. Pam yr wyt yn cuddio dy wynebac yn anghofio'n hadfyd a'n gorthrwm?

Y Salmau 44