Y Salmau 44:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.

13. Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.

14. Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.

15. Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd,ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd

16. o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.

Y Salmau 44