Y Salmau 41:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd.Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;

2. bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw;bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir,ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.

3. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd,ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.

4. Dywedais innau, “O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf;iachâ fi, oherwydd pechais yn d'erbyn.”

5. Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf,“Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?”

6. Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol,ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf,ac yn mynd allan i'w daenu ar led.

7. Y mae'r holl rai sy'n fy nghasáu yn sisial â'i gilydd,yn meddwl y gwaethaf amdanaf,

Y Salmau 41