Y Salmau 41:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd.Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;

2. bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw;bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir,ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.

3. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd,ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.

Y Salmau 41