Y Salmau 40:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD,ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.

2. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog,allan o'r mwd a'r baw;gosododd fy nhraed ar graig,a gwneud fy nghamau'n ddiogel.

3. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd,cân o foliant i'n Duw;bydd llawer, pan welant hyn, yn ofniac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.

4. Gwyn ei fyd y sawlsy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD,ac nad yw'n troi at y beilchion,nac at y rhai sy'n dilyn twyll.

Y Salmau 40