Y Salmau 37:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD,aros yn amyneddgar amdano;paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo,y gŵr sy'n gwneud cynllwynion.

8. Paid â digio; rho'r gorau i lid;paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.

9. Oherwydd dinistrir y rhai drwg,ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.

10. Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus;er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.

11. Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tirac yn mwynhau heddwch llawn.

Y Salmau 37