Y Salmau 37:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus;er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.

11. Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tirac yn mwynhau heddwch llawn.

12. Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn,ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno;

13. ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben,oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod.

14. Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyfac yn plygu eu bwa,i ddarostwng y tlawd a'r anghenus,ac i ladd yr union ei gerddediad;

15. ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain,a thorrir eu bwâu.

16. Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawnna chyfoeth mawr y drygionus;

Y Salmau 37