Y Salmau 37:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

2. Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,a chrino fel glesni gwanwyn.

3. Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni,iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.

4. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD,a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.

5. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD;ymddiried ynddo, ac fe weithreda.

6. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleunia'th uniondeb fel haul canol dydd.

7. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD,aros yn amyneddgar amdano;paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo,y gŵr sy'n gwneud cynllwynion.

8. Paid â digio; rho'r gorau i lid;paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.

9. Oherwydd dinistrir y rhai drwg,ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.

Y Salmau 37