1. Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi,ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd â mi.
2. Cydia mewn tarian a bwcled,a chyfod i'm cynorthwyo.
3. Tyn allan y waywffon a'r bicellyn erbyn y rhai sy'n fy erlid;dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.”
4. Doed cywilydd a gwarthar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i midroi yn eu holau mewn arswyd.
5. Byddant fel us o flaen gwynt,ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.
6. Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig,ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
7. Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi,ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
8. Doed distryw yn ddiarwybod arnynt,dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt,a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.
9. Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD,a gorfoleddu yn ei waredigaeth.