Y Salmau 34:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.

20. Ceidw ei holl esgyrn,ac ni thorrir yr un ohonynt.

21. Y mae adfyd yn lladd y drygionus,a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.

22. Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision,ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.

Y Salmau 34