Y Salmau 32:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd,ac y cuddiwyd ei bechod.

2. Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDDyn cyfrif ei fai yn ei erbyn,ac nad oes dichell yn ei ysbryd.

3. Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod,a minnau'n cwyno ar hyd y dydd.

4. Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos;sychwyd fy nerth fel gan wres haf.Sela

Y Salmau 32