Y Salmau 31:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldebrhag y rhai sy'n cynllwyn;fe'u cedwi dan dy gysgodrhag ymryson tafodau.

21. Bendigedig yw'r ARGLWYDDa ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol atafyn nydd cyfyngder.

22. Yn fy nychryn fe ddywedais,“Torrwyd fi allan o'th olwg.”Ond clywaist lef fy ngweddipan waeddais arnat am gymorth.

23. Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid.Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon,ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.

Y Salmau 31