Y Salmau 31:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,y mae dychryn ar bob llaw;pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyny maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.

14. Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”

15. Y mae fy amserau yn dy law di;gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.

16. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;achub fi yn dy ffyddlondeb.

Y Salmau 31