7. Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn,ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi.
8. Gelwais arnat ti, ARGLWYDD,ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd:
9. “Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll?A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd?
10. Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf; ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.”
11. Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns,wedi datod fy sachliain a'm gwisgo â llawenydd,
12. er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid.O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth!