Y Salmau 30:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyrchafaf di, O ARGLWYDD, am iti fy ngwaredu,a pheidio â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.

2. O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iacháu.

3. O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol,a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

4. Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid,a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd.

Y Salmau 30