Y Salmau 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,

2. a llawer yn dweud amdanaf,“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”Sela

3. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.

4. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.Sela

5. Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu,ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.

Y Salmau 3