Y Salmau 25:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.

9. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.

10. Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirioneddi'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.

11. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.

Y Salmau 25