Y Salmau 22:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael,ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan?

2. O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb,a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.

3. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orsedduyn foliant i Israel.

4. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried,yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.

5. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.

6. Pryfyn wyf fi ac nid dyn,gwawd a dirmyg i bobl.

Y Salmau 22