Y Salmau 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgua'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer?

2. Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod,a'r llywodraethwyr yn ymgynghori â'i gilyddyn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog:

3. “Gadewch inni ddryllio eu rhwymau,a thaflu ymaith eu rheffynnau.”

4. Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd;y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar.

5. Yna fe lefara wrthynt yn ei lida'u dychryn yn ei ddicter:

Y Salmau 2