Y Salmau 18:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.

10. Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.

11. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,a chymylau duon yn orchudd.

12. O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau,a chenllysg a cherrig tân.

13. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.

14. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.

15. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.

16. Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

17. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

Y Salmau 18