Y Salmau 18:47-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

47. y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd odanaf,

48. sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.

49. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,a chanaf fawl i'th enw.

50. Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth,ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,i Ddafydd ac i'w had am byth.

Y Salmau 18