Y Salmau 17:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Doed fy marn oddi wrthyt ti,edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.

3. Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos,chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.

4. Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill,ond fe gedwais eiriau dy wefusau.

5. Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu,ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.

6. Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw;tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.

7. Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol,ti, sy'n gwaredu รข'th ddeheulawy rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.

Y Salmau 17