1. Molwch yr ARGLWYDD.Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid.
2. Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr,ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
3. Molwch ei enw â dawns,canwch fawl iddo â thympan a thelyn.
4. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl;y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig.