Y Salmau 147:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem;mola dy Dduw, O Seion,

13. oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth,a bendithiodd dy blant o'th fewn.

14. Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau,ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau.

15. Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear,ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.

16. Y mae'n rhoi eira fel gwlân,yn taenu barrug fel lludw,

Y Salmau 147