Y Salmau 144:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr,cyffwrdd â'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;

6. saetha allan fellt nes eu gwasgaru,anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.

7. Estyn allan dy law o'r uchelder,i'm hachub ac i'm gwareduo ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid

8. sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.

9. Canaf gân newydd i ti, O Dduw,canaf gyda'r offeryn dectant i ti,

10. ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,ac yn achub Dafydd ei was.

11. Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon;gwared fi o law estroniaid,sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.

12. Bydded ein meibion fel planhigionyn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid,a'n merched fel pileri cerfiedigmewn adeiladwaith palas.

Y Salmau 144