Y Salmau 143:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Paid â mynd i farn â'th was,oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.

3. Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.

4. Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,a'm calon wedi ei dal gan arswyd.

5. Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,ac yn meddwl am waith dy ddwylo.

6. Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti,ac yn sychedu amdanat fel tir sych.Sela

Y Salmau 143