Y Salmau 141:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Pan fwrir eu barnwyr yn erbyn craig,byddant yn gwybod mor ddymunol oedd fy ngeiriau.

7. Fel darnau o bren neu o graig ar y llawr,bydd eu hesgyrn wedi eu gwasgaru yng ngenau Sheol.

8. Y mae fy llygaid arnat ti, O ARGLWYDD Dduw;ynot ti y llochesaf; paid รข'm gadael heb amddiffyn.

9. Cadw fi o'r rhwyd a osodwyd imi,ac o fagl y gwneuthurwyr drygioni.

10. Bydded i'r drygionus syrthio i'w rhwydau eu hunain,a myfi fy hun yn mynd heibio.

Y Salmau 141