Y Salmau 140:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,

2. rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,a phob amser yn codi cythrwfl.

3. Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.Sela

4. O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.

Y Salmau 140