Y Salmau 139:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.

19. Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—

20. y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.

21. Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?

22. Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith,ac y maent fel gelynion i mi.

23. Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon;profa fi, iti ddeall fy meddyliau.

Y Salmau 139