Y Salmau 138:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd,a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb,oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.

3. Pan elwais arnat, atebaist fi,a chynyddaist fy nerth ynof.

4. Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,am iddynt glywed geiriau dy enau;

5. bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD,oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.

Y Salmau 138