Y Salmau 136:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

10. Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

11. a daeth ag Israel allan o'u canol,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

12. â llaw gref ac â braich estynedig,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

13. Holltodd y Môr Coch yn ddau,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

14. a dygodd Israel trwy ei ganol,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

15. ond taflodd Pharo a'i lu i'r Môr Coch,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Y Salmau 136