Y Salmau 135:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;fe wna fellt ar gyfer y glaw,a daw gwynt allan o'i ystordai.

8. Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,yn ddyn ac anifail;

9. anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.

10. Fe drawodd genhedloedd mawrion,a lladd brenhinoedd cryfion—

11. Sihon brenin yr Amoriaid,Og brenin Basan,a holl dywysogion Canaan;

12. rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

Y Salmau 135