Y Salmau 128:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Cei fwyta o ffrwyth dy lafur;byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.

3. Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷfel gwinwydden ffrwythlon,a'th blant o amgylch dy fwrddfel blagur olewydd.

4. Wele, fel hyn y bendithir y sawlsy'n ofni'r ARGLWYDD.

5. Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion,iti gael gweld llwyddiant Jerwsalemholl ddyddiau dy fywyd,

6. ac iti gael gweld plant dy blant.Bydded heddwch ar Israel!

Y Salmau 128