Y Salmau 12:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur:arian wedi ei goethi mewn ffwrnais,aur wedi ei buro seithwaith.

7. Tithau, ARGLWYDD, cadw ni,gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon,

8. am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw,a llygredd yn uchaf ymysg pobl.

Y Salmau 12