Y Salmau 119:70-75 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

70. y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.

71. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!

72. Y mae cyfraith dy enau yn well i mina miloedd o aur ac arian.

73. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.

74. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychantam fy mod yn gobeithio yn dy air.

75. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn,ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.

Y Salmau 119