Y Salmau 119:41-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

41. Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD,a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid;

42. yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar,oherwydd ymddiriedais yn dy air.

43. Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau,oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.

44. Cadwaf dy gyfraith bob amser,hyd byth bythoedd.

45. Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd,oherwydd ceisiais dy ofynion.

Y Salmau 119