Y Salmau 119:30-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Dewisais ffordd ffyddlondeb,a gosod dy farnau o'm blaen.

31. Glynais wrth dy farnedigaethau.O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.

32. Dilynaf ffordd dy orchmynion,oherwydd ehangaist fy neall.

33. O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,ac o'i chadw fe gaf wobr.

34. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraitha'i chadw â'm holl galon;

35. gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.

36. Tro fy nghalon at dy farnedigaethauyn hytrach nag at elw;

Y Salmau 119